Tudor - Syrfewyr Siartredig a Asiantwyr Gwerthu Eiddo 
Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data
Diwygiwyd Ionawr 2018

H. Tudor A'i Fab Cyf (Enw masnachu Tudor - Syrfewyr Siartredig - Gwerthwyr Eiddo) Rydym yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaw i rym ar 25 Mai 2018

H. Tudor A'i Fab (Tudor) yn gwmni cofrestredig Cwmni Cyfyngedig Rhif 05722702 ac mae Diogelu Data wedi'i Gofrestru gyda 'Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth' (ICO)

Rydym wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a thrwy'r polisi hwn rydym yn nodi sut y gwneir hyn.

Rydym yn gwmni sydd yn ymgymryd â gwaith eiddo proffesiynol, asiantaeth sydd yn gwerthu, rheoli a gosod eiddo ar ran cleientiaid - ar gyfer y diben busnes yma byddwn yn casglu a defnyddio data personol.

Mae gan y Cyfarwyddwyr a'r staff rwymedigaeth i gyflawni eu dyletswyddau ar gyfer rheoli'r busnes yn gywir ac i gydymffurfio â rheolau ein Cyrff Proffesiynol ac awdurdodau rheoleiddio eraill.

Mae'r Cyfarwyddwyr yn deall yr angen am Preifatrwydd. Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gesglir at unrhyw ddiben heblaw am ofal ein cleientiaid unigol, hysbysebu ein sgiliau a gwybodaeth am wasanaeth, neu gyswllt unigol pan ofynnir amdano. At y dibenion hyn, fyddwn yn cadw'r wybodaeth. Mae Tudor yn datgan y bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â'r darpariaethau cyfreithiol sy'n ymwneud â diogelu data.

Yn unol â'u hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gall cleientiaid ofyn am newid / dileu'r wybodaeth bersonol a gedwir ac i roi cyfarwyddid i ni roi'r gorau i anfon unrhyw negeseuon pellach.

Nid ydym yn gwerthu, rhentu neu ddelio fel arall efo'r wybodaeth bersonol sydd gennym.

Mae'r polisi hwn yn disgrifio'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu neu yn derbyn amdanoch chi, sut y caiff ei storio a sut yr ydym yn ei ddefnyddio.

Rydym yn cydymffurfio â'r Egwyddorion Diogelu Data, Deddf Diogelu Data 1998 a'r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) newydd a ddaw i rym ar 25 Mai 2018.

Dogfen Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data wedi'i ddiweddaru 24/01/2018

Symudwch gyda Hyder-
- yn y wybodaeth eich bod wedi'ch diogelu fel gwerthwr, prynwr, Landlord neu Denant.   
Rydym yn aelodau o gyrff eiddo proffesiynol:

Affiliations

MovingBoxesWide